Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Ailenwodd adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Yr enw newydd yw Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”).

Mae adran 12 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â chofrestru yn y gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (“y Gofrestr”).

Nodir y ffioedd sy’n daladwy yn rheoliad 3 sy’n darparu mai £45 yw’r ffi sy’n daladwy gan athrawon ysgol ac athrawon addysg bellach ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2016. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru bennu’r swm a roddir tuag at y ffioedd cofrestru hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi’r swm hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i gyflogwr, ar gais y Cyngor, gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2, pan fo’n cyflogi person y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr sydd wedi cael ei hysbysu gan y Cyngor ddidynnu ffi gofrestru o gyflog athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes addysg bellach; ac mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr ei thalu i’r Cyngor o fewn 14 diwrnod.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â’r person y telir y ffi iddo wrth dalu’r ffi iddo.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Safonau Ymarferwyr a Datblygu Proffesiynol yn yr Adran Addysg a Sgiliau.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015

Gwnaed                                                      

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru      

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 36 a 47(1) a (2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mae’r rheoliadau a nodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;

ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor  fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy; ac

ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014.

Swm y ffi gofrestru sy’n daladwy

3.(1)(1) Y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2016 yw—

(a)     £45 i athrawon ysgol; a

(b)     £45 i athrawon addysg bellach.

(2) Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro i’w dalu tuag at y ffioedd sy’n daladwy yn unol â pharagraff (1).

(3) Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

(4) Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—

(a)     i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—

                           (i)    ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a

                         (ii)    cadw cofnodion yn y Gofrestr; a

(b)     fel bod eithriadau ac esemptiadau pan na chodir ffioedd.

Yr wybodaeth sydd i’w chyflenwi gan gyflogwr i’r Cyngor ar gais

4. Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn Atodlen 2 iddo am unrhyw berson a gyflogir gan y cyflogwr hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.

Didynnu ffi

5.(1)(1) Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.

(3) Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i’w ddidynnu o’r cyflog gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 3(2).

(4) Dim ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—

(a)     bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu

(b)     ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014,

y caniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr.

Talu ffioedd i’r Cyngor

6. Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 5 dalu’r ffi honno i’r Cyngor.

Yr wybodaeth sydd i’w chyflenwi i’r Cyngor gan y cyflogwr gyda’r ffi

7. Wrth dalu’r ffi, rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn Atodlen 2 am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.

Methu â chyflawni dyletswydd

8. Os nad yw person yn cyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

                              


ATODLEN 1      Rheoliad 1

Y RHEOLIADAU A DDIRYMIR

 

 

Y rheoliadau a ddirymir

Cyfeiriadau

Graddau’r dirymu

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000

O.S. 2000/1979

(Cy. 140)

Rheoliad 9

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002

O.S. 2002/326 (Cy. 39)

Yn llawn

                              


ATODLEN 2      Rheoliad 4

YR WYBODAETH SYDD I’W CHYFLENWI I’R CYNGOR

1. Enw llawn y person.

2. Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.

3. Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.

4. Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.

5. Enw’r ysgol neu’r sefydliad y mae’r person yn cael ei gyflogi ynddo.

6. Rhif yswiriant gwladol y person.

7. Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.

8. Dyddiad geni’r person.

9. Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).



([1])           2014 dccc 5.